Cyflwyniad Gwyn Derfel i’r Senedd
Maen nhw’n dweud ei bod hi’n rhan o’n traddodiad Cymreig ni bod tri phen i bob pregeth. O safbwynt UGC mae gennyf brofiad helaeth o’r Cynghrair o dri chyfeiriad gwahanol – fel cefnogwr/darlledwr/gweinyddwr.
Mae gennym gynnyrch da sy’n haeddu gwell sylw – nid fy ngeiriau i ond geiriau John Hartson.
‘Rwy’n credu bod y ‘Deuddeg Disglair’ wedi arwain at gynnydd yn y cyffro a’r safon ac mae hynny’n cael ei adlewyrchu i ryw raddau yn y cynnydd o 26% yn lefel y torfeydd ar yr un adeg a bod canran torfeydd mwyafrif llethol gwledydd Ewrop yn disgyn.
Mae’n rhaid derbyn bod angen gwelliannau sylfaenol ar UGC er mwyn i’n Cynghrair Cenedlaethol ddatblygu ymhellach. I barhau gyda thema’r tri phen – mae angen tri gwelliant sylfaenol;
1) Safon y Meysydd
2) Nifer Torfeydd
3) Cynaladwyedd
1) Tra bod nifer o feysydd chwarae i’w canmol yn arw ( rhai ohonynt diolch i gyfraniadau ariannol sylweddol gan GBDC) – mae wyneb meysydd rhai clybiau yn dal yn annerbyniol ar adegau penodol o’r tymor.Nid yw hyn yn gymorth i wella’r safon, y cynnyrch na’r gefnogaeth.
2) Er mai’r tymor yma a’r tymor diwethaf yw’r ddau sydd wedi gweld y ganran uchaf o gefnogaeth ers sefydlu’r Cynghrair – rhaid derbyn bod angen denu mwy o wylwyr i’r gemau – yn enwedig teuluoedd. ‘Rydym fel CBDC am gyflwyno canllawiau llawer mwy llym ar regi’r tymor nesaf er mwyn gosod esiampl a denu teuluoedd i’n gemau.
3) Mae cynaladwyedd yn hollbwysig i holl glybiau UGC ac i’r clybiau sy’n gobeithio esgyn i’r brif adran yn y dyfodol. Gan mai dim ond 7% o holl incwm un clwb penodol gasglwyd ar y gật y tymor hwn – mae’n rhaid i glybiau weithio’n galed iawn i greu incwm o ffynonellau eraill er mwyn cadw’r blaidd o’r drws.
Felly safon y meysydd, nifer torfeydd a chynaladwyedd ydi tair prif broblem UGC – ond ‘rwy’n credu y gall meysydd 3G/4G gyfrannu’n helaeth iawn at ateb yr holl broblemau hyn.
Mewn byd delfrydol byddai’n well gennyf weld pob gêm yn cael eu chwarae ar faes gwair safonol – ond credaf y gall y genhedlaeth newydd o gaeau chwarae weddnewid holl glybiau UGC.
Gallai clwb fel Bangor osod eu hadnodd newydd ym maes parcio Nantporth gan gynnig cartref i’w hacademi, lle ymarfer i’r prif dim – ac wrth gwrs byddai’n adnodd gwerthfawr i’r gymuned leol – boed hynny’n dimau merched neu griw o ffrindiau sy’n chwarae er mwyn cadw’n iach a mwynhad. Yn naturiol byddai hyn hefyd yn cynyddu’r niferoedd sy’n chwarae’r gamp.
Mae gofynion ac anghenion clybiau fel Prestatyn, Y Drenewydd a’r Bala yn wahanol iawn i rai Bangor. Byddai 3G/4G yn cael ei ddefnyddio fel y prif faes chwarae yn y clybiau hyn. Eu hagwedd yw “os yw maes o’r fath yn ddigon da i dîm rhyngwladol Yr Wcrain – yna mae’n ddigon da i ni !”
Gall hyn arbed costau cynnal a chadw o hyd at £60,000 yn flynyddol ac wrth gwrs byddai safon wyneb y maes newydd yn annog pêl-droed o safon uwch na’r presennol. Yn hytrach na thalu canolfannau eraill i ymarfer yno – byddai’r cynllun hwn yn creu incwm a diddordeb yn y clwb. Byddai’r clwb a’r gymuned ar eu hennill –gyda’r clwb yn tyfu i fod yn ganolbwynt cymunedol cynaladwy.
Gadewch i mi gynnig cwpl o enghreifftiau penodol i chi.
Mae Twrci – sydd eisoes ậ chynllun 3G sylweddol, newydd gyhoeddi buddsoddiad ar gyfer 350 o gaeau newydd.
Sweden – Mae tref Umea 70 milltir i’r gogledd o Stockholm, sydd ậ phoblogaeth o 100,000 – gyda buddsoddiad llywodraethol – wedi gosod 20 cae 3G yn y 10 mlynedd ddiwethaf er mwyn cryfhau’r cysylltiad rhwng y clwb a’r gymuned, cynyddu’r niferoedd sy’n chwarae’r gamp er mwyn gwella iechyd y genedl a hefyd godi ymwybyddiaeth y boblogaeth o bwysigrwydd bod yn ddinesydd da - sy’n atal torcyfraith. Mae’r torfeydd sy’n gwylio prif dîm y clwb wedi cynyddu ers i’r dref a’r llywodraeth fabwysiadu’r cynllun hwn.
Yr Alban – Mae clwb Annan Athleic o Drydedd Adran yr Alban newydd dderbyn £592,000 ar gyfer cae 3G. Mae’r buddsoddiad hwn yn cynnwys arian ậ adfeddianwyd gan droseddwyr drwy gynllun Cashback from Communities y llywodraeth.
Gogledd Iwerddon – Poblogaeth 1.5 miliwn ac mae’r llywodraeth yno newydd gyhoeddi buddsoddiad o £36,000,000 i wella stadiymau eu huwch gynghrair. Mae ganddynt hefyd gynllun 3G/4G uchelgeisiol a phell gyrhaeddol.
Mae 121 o gaeau synthetig yng Ngogledd Iwerddon ar hyn o bryd ac o fewn y pum mlynedd nesaf bwriad y llywodraeth yw gosod 207 arall. Ar gyfartaledd mae’r meysydd hyn yn cael eu defnyddio 90% o’r amser.
Enghraifft Clwb Crusaders
(Mae’r Crusaders ynghŷd ậ Cliftonville yn chwarae ar feysydd 3G/4G yn Uwch Gynghrair Gogledd Iwerddon)
Talodd y llywodraeth am ddiweddaru’r stadiwm ac am osod maes 4G. Bu’n rhaid i’r clwb godi 15% o gost gosod y cae. Y clwb sy’n gyfrifol am weinyddu’r defnydd o’r maes ac fel rhan o’r fargen am dderbyn cyfraniad sylweddol y llywodraeth – mae’n rheidrwydd arnyn nhw i adael i ysgolion lleol ddefnyddio’r cae’n wythnosol am ddim.
Mae’r clwb yn fodlon iawn gyda’r trefniant hwn gan ei fod yn cryfhau’r cysylltiad rhwng y clwb a’r gymuned a bod costau cynnal a chadw’r cae yn îs na chae gwair.
Mae’r clwb yn arbed £12,000 yn flynyddol ar gostau llogi meysydd ymarfer yn unig ers gosod eu cae 4G.
Mae holl dimau’r Crusaders yn ymarfer ac yn chwarae ar y maes a llogir y cae i’r cyhoedd ar yr adegau rhydd eraill - sydd yn creu incwm i’r clwb. Bydd yn galluogi’r Crusaders i ail-osod maes newydd - heb gyfraniad llywodraethol pan ddaw cyfnod y cae presennol i ben.
Felly mae gosod y cae wedi wedi gosod y Crusaders yn amlycach yng nghalon y gymuned, wedi arbed costau cynnal a chadw i’r clwb, creu incwm iddyn nhw a’u gwneud yn fwy cynaladwy.
Sylwadau i gloi
Yn syml felly os oes un neges glir i ddod o’m tystiolaeth heddiw, hoffwn i’r pwyllgor hwn, ar ran y Cynulliad, ystyried dilyn patrwm gwledydd eraill a mabwysiadu cynllun fyddai’n cynorthwyo’r broses o osod clybiau UGC wrth galon eu cymunedau.
Byddai un buddsoddiad yn gallu gweddnewid pêl-droed yn ein cymunedau a chynorthwyo clybiau ein Uwch Gynghrair Genedlaethol i dyfu’n fwy cynaladwy ac i gynyddu niferoedd sy’n chwarae a gwylio gêm fwyaf poblogaidd ein gwlad.
Diolch am eich hamser / Thank you very much for your time.